Ymateb TAC i'r cwestiynau penodol a amlinellir gan Is-bwyllgor Menter a Busnes ac Is-bwyllgor Arolygiaeth Gofal Iechyd a Chymdeithaso ar safleoedd di-fwg ayyb (Cymru)(Gwelliant)Rheoliadau 2012, mewn llythyr dyddiedig 6 Rhagfyr 2012

 

A oes angen y diwygiad hwn i esemptio perfformwyr o'r gofynion di-fwg at ddibenion masnachol?

Oes, yn ddiamheuol. Mewn dwy ffordd -

(I) y bygythiad i fuddsoddiadau mewnol i Gymru yn y diwydiannau creadigol; Yn y diwydiant ffilm yn ogystal a theledu - ble bydd cynhyrchwyr yn cael eu cyfyngu gan reolau nad ydynt yn bolisïau golygyddol a hynny’n arwain at amharodrwydd i ddod â'u cynhyrchiadau i Gymru os nad yw'r Gwelliant hwn yn cael ei dderbyn.. Mae hyn hefyd yn berthnasol i'r cyfleoedd posibl o gynhyrchu cyd-gynyrchiadau y gellid eu ffilmio yma yng Nghymru.

(Ii) Mae'r rheoliadau presennol yn ei gwneud yn ofynnol i  deithio ar draws y ffîn i Loegr i ffilmio golygfeydd sy’n cynnwys ysmygu, sy'n gost ychwanegol i gynhyrchwyr Cymru.  Gall hyn yn y pen draw arwain at gyfaddawdu golygyddol di-angen nad ydynt yn gyson â gofynion artistig y cynhyrchiad.

 

 

A fydd y diwygiad hwn yn cyflawni ei nod o gefnogi'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru?

 

Bydd, heb amheuaeth. Mae rheoleiddio ddigonol i amddiffyn y gwyliwr yn y ddeddfwriaeth gyfathrebu gyfredol.

Mae cynhyrchwyr teledu TAC, wrth gynhyrchu rhaglenni ar gyfer S4C neu ddarlledwyr masnachol yn cael eu rheoleiddio gan  God Darlledu Ofcom. Mae dwy adran sy’n arbennig o berthnasol i'r mater hwn sef:

Adran Un - Diogelu'r Rhai dan Ddeunaw Oed                                              

Rheol 1.10 - Cyffuriau, ysmygu, toddyddion ac alcohol

Yn achos defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, camddefnyddio cyffuriau, ysmygu, camddefnyddio toddyddion a chamddefnyddio alcohol:

        rhaid peidio a’u cynnwys mewn rhaglenni sydd wedi'u gwneud yn bennaf ar gyfer plant oni bai fod cyfiawnhad golygyddol cryf;

 

        rhaid eu hosgoi fel arfer a pha un bynnag rhaid peidio â’u cymeradwyo, eu hyrwyddo na’u ‘glamoreiddio’ mewn rhaglenni eraill a ddarlledir cyn y trothwy (yn achos teledu), neu pan yw plant yn neilltuol o debygol o wrando (yn achos radio), oni bai fod cyfiawnhad golygyddol;

 

        rhaid peidio â’u cymeradwyo, eu hyrwyddo na’u ‘glamoreiddio’ mewn rhaglenni eraill y mae llawer o rai dan ddeunaw oed yn debygol o’u gweld neu eu clywed oni bai fod cyfiawnhad golygyddol.

 

Rheol 1.13 - Trais ac ymddygiad peryglus

Ymddygiad peryglus, neu bortreadau o ymddygiad peryglus, sy'n debygol o allu cael ei efelychu'n rhwydd gan blant mewn modd sy'n niweidiol:

• rhaid peidio eu cynnwys mewn rhaglenni sydd wedi'u gwneud yn bennaf ar gyfer plant oni bai fod cyfiawnhad golygyddol cryf;

• Rhaid peidio â'i ddarlledu cyn y trothwy oni bai fod cyfiawnhad golygyddol.

 

Adran Dau - Niwed a Sarhâd

Rheol 3.4 Trais, ymddygiad peryglus a hunanladdiad

Rhaid i raglenni beidio â chynnwys deunydd (boed mewn rhaglenni unigol neu mewn rhaglenni o'u cymryd gyda'i gilydd) sydd, gan gymryd i ystyriaeth y cyd-destun, yn goddef neu wneud yn ddeniadol, ymddygiad peryglus, neu ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol sy'n debygol o gymell eraill i efelychu ymddygiad o'r fath.

 

Yng nghyd-destun Adran 2  y Cod mae’n cael ei dderbyn yn eang bod ysmygu yn cael ei ystyried yn ymddygiad peryglus, ac felly yn cael ei reoli gan y darpariaethau hyn. Ni chaniateir i gynhyrchwyr wneud ysmygu yn ddeniadol mewn unrhyw fodd - yn wir fe’i portreadir yn eang fel gweithgaredd gwrthgymdeithasol, sy'n aml yn gysylltiedig â chymeriadau sy'n dioddef pryder neu amgylchiadau sy’n creu straen personol.

Mae Fiction Factory, un o aelodau TAC,  ar hyn o bryd yn cynhyrchu cyfres ddrama dditectif wedi ei  leoli yn Aberystwyth, sy'n cynnwys cymeriad sinistr sydd, yn y plot, yn amlwg yn ysmygu. Er hyn, mae’r cynhyrchydd yn rhwystredig nad ydynt yn gallu portreadu'r cymeriad yn y weithred o ysmygu. Cafwyd enghreifftiau tebyg eraill yn ystod y blynyddoedd diweddar lle mae cynhyrchwyr wedi gorfod naill ai gyfaddawdu’n olygyddol neu wynebu costau cynhyrchu ychwanegol drwy ffilmio’r golygfeydd perthnasol yn Lloegr.

Anaml iawn y gwelir cymeriadau yn ysmugu mewn drama cyfoes bellach – yn wir, o fewn operâu sebon megis Pobl y Cwm a Rownd a Rownd  ychydig iawn o’r cymeriadau sy'n ysmygu - mae hyn yn gyson gyda chymeriadau sebon yn Eastenders, Coronation Street ac ati. Pe bai cymeriad yn cael ei weld yn ysmygu yna fe fyddai hynny’n olygyddol fwriadol er mwyn dweud rhywbeth am ei gymeriad - a byth mewn modd sy'n bortread positif neu'n gwneud ymddygiad o'r fath yn ddeniadol.

Ym maes drama cyfnod, fodd bynnag, mae hygrededd cynhyrchiad yn dibynnol ar bortread cywir o arferion cymdeithasol, ynghyd â gwisgoedd dilys, propiau a lleoliadau. Byddai unrhyw gynhyrchiad wedi ei osod cyn y 1990au yn adlewyrchu adeg pan oedd  ysmygu mewn cymunedau yn  gyffredin ac yn dderbyniol. Mae dramâu diweddar fel 'Life on Mars', 'The Hour' a 'Upstairs Downstairs' wedi ymgorffori golygfeydd yn cynnwys y prif gymeriadau’n ysmygu. Dymuniad syml aelodau TAC yw i fedru ffilmio cynhyrchiadau tebyg yma yng Nghymru. Cynhyrchodd cwmni Green Bay ffilm, sydd wedi ennill nifer o wobrau, oedd yn portreadu bywyd Richard Burton a'i frawd pan gyfarfuon nhw yng nghartref Richard Burton yn y Swistir. Mae'r ddau gymeriad yn ysmygu’n gyson drwy gydol y ffilm. Roedd hynny’n hanfodol er mwyn adlewyrchu'r realiti hwn. Ni allai’r ffilm hon fod wedi cael ei ffilmio yng Nghymru.

Byddai'n drueni pe na bai’n bosibl i greu portread cywir o Dylan Thomas, er enghraifft, yn eistedd yn y Boat House neu Brown’s yn Nhalacharn yn ysgrifennu ac ysmygu yn ôl arfer ei gyfnod.

Mae aelodau TAC hefyd angen gallu portreadu bywyd cyfoes llym yn rhai o'n cymunedau difreintiedig lle mae ysmygu yn gyffredin. Roedd hyn yn wir yng nghyfres BBC Cymru 'Care'. Byddai cynhyrchwyr yn gorfod cyfaddawdu’n olygyddol pe na bai modd adlewyrchu bywyd yng nghartrefi yr unigolion hyn. Mae'r rhain yn ddarnau o waith pwysig sydd yn aml yn adlewyrchu effaith niweidiol ysmygu ar ein hiechyd.

Safbwynt TAC yw bod y sefyllfa bresennol yn gosod cyfyngiadau anghyfiawn ar ryddid golygyddol awduron a chynhyrchwyr sy'n arwain at gyfaddawdu golygyddol neu orfod osgoi'r cyfyngiad trwy symud y cynhyrchiad allan o Gymru.

Mae aelodau TAC yn anelu at gynhyrchu drama o safon i ddiddanu, rhannu gwybodaeth ac addysgu'r gynulleidfa. Fel diwydiant, rydym wedi cofleidio amrywiaeth ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol at  ganfyddiad y cyhoedd o ystyr bod yn gynhwysol. Bydd y Diwygiad arfaethedig yn yr un modd yn galluogi cynhyrchwyr i chwarae rhan wrth hyrwyddo y canfyddiad negyddol o ysmygu mewn dramau cyfoes yn ogystal â chreu ddilysrwydd mewn dramau cyfnod. Rydym yn credu y gellir cyflawni hyn ynghyd a chadw’r  risg i iechyd y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant mor isel a phosib o ysmygu goddefol pan gaiff ei reoli'n briodol wrth lynu’n gaeth at reoliadau iechyd a diogelwch a pharatoi asesiadau risg ystyrlon (gweler isod).

 

A oes digon o eglurder o ran yr amgylchiadau y mae'r esemptiad yn weithredol ynddynt?

Crêd TAC fod yr eithriad presennol yn darparu digon o eglurder am yr amgylchiadau lle bo’r eithriad yn gymwys.

 

A yw'r amodau yn cynnig diogelwch digonol i berfformwyr eraill, staff cynhyrchu ac aelodau o'r cyhoedd?

 

Mae'r amodau yn gosod cyfyngiadau llym ar yr amgylchiadau pan fydd yn bosibl i ganiatáu ysmygu yn y gweithle - rhaid i'r cyd-destun artistig amlinellu fod cyfiawnhad golygyddol dros ymgorffori golygfeydd mewn cynyrchiadau. Gan fod y gyfraith yn gyffredinol yn  ei gwneud  yn anghyfreithlon i ysmygu yn y gweithle, mae nifer y golygfeudd ble bydd cymeriadau mewn dramau cyfoes yn cael portreadu yn ysmygu yn llawer llai na fu yn y gorffennol. Er enghraifft, mae golygfeudd mewn tafarnau, clybiau, ystafelloedd staff yr ysgol, gorsafoedd heddlu ac ati bellach yn ardaloedd di-fwg  ac felly nid ydynt yn cael eu portreadu mewn dramau cyfoes fel amgylcheddau ysmygu. Hefyd, mae'r amodau yn cyfyngu ar gynhyrchwyr ffilm a theledu pan fydd plant yn cymryd rhan. Gall sgiliau y cyfarwyddwr alluogi portreadu golygfeudd sy’n cgreu’r ddelwedd fod plant yn rhan o’r olygfa, ond mewn gwirionedd, ni fyddent yn bresennol pan fydd onglau camera arbennig yn cael eu ffilmio gydag oedolion yn ysmygu.

 

A ellir creu canlyniadau anfwriadol drwy gyflwyno'r esemptiad hwn?

 

Ag eithrio gwneud datganiad clir bod Cymru'n ‘agored i fusnes’ ar gyfer lleoli pob math o gynyrchiadau ffilm a theledu, a dangos ymddiriedaeth yn ein cynhyrchwyr i ymddwyn yn gyfrifol, yn unol â'r sefyllfa yng ngweddill y DU, nid ydym yn gweld unrhyw ganlyniadau anfwriadol o gyflwyno yr esemptiad hwn. Bydd y diwydiannau creadigol yn ei weld fel arwydd pwysig o gefnogaeth ac ymddiriedaeth gan Lywodraeth Cymru ac yn ardystiad o werth ein diwydiant  i economi Cymru wrth gyflawni diben artistig, economaidd a chymdeithasol.

Yn gelfyddydol, bydd yn galluogi cynhyrchwyr i amlygu unwaith eto y canfyddiad negyddol am ysmygu yn ein cymdeithas ac yn helpu i gyfrannu tuag at nod Llywodraeth Cymru o leihau effeithiau niweidiol ysmygu.

 

Pa ystyriaethau o ran polisi iechyd sy’n berthnasol i’r diwygiad hwn?

Mae gan y cwmnïau sy'n aelodau o TAC  record ardderchog o gydymffurfiaeth â chanllawiau Iechyd a Diogelwch. Byddem yn croesawu trafodaethau gyda phartïon sydd â diddordeb i ffurfio canllawiau i'r diwydiant allasai fod yn berthnasol pan fyddai angen i gynhyrchiad ddangos rhywun yn ysmygu mewn golygfeydd penodol.

Fel yr amlinellir uchod, mae darpariaethau rheoleiddio'r diwydiant yn golygu na ellir portreadu ysmygu mewn modd bositif neu ddeniadol - mae'n cael ei ddangos yn ddieithriad i ddarparu hygrededd golygyddol i ddramau cyfnod neu, mewn dramau cyfoes, i bortreadu y cyd-destun negyddol, megis faeledd yng nghymeriad person neu ddatganiad o statws cymdeithasol.